Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 5 Mehefin 2019
Amser:
09.30 -
11.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5492
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Mick Antoniw AC (yn lle Dawn Bowden AC) Jayne Bryant AC Angela Burns AC Helen Mary Jones AC Lynne Neagle AC David Rees AC |
Tystion: |
Steve Ham, Ymddiriedolaeth GIG Felindre Dr Jacinta Abraham, Ymddiriedolaeth GIG Felindre Carl James, Ymddiriedolaeth GIG Felindre Cath O’Brien, Ymddiriedolaeth GIG Felindre |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Amy Clifton (Ymchwilydd) Rebekah James (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AC, ac roedd Mick Antoniw AC yn bresennol fel dirprwy.
2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a chytunodd i ysgrifennu ati i gael rhagor o wybodaeth.
3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr. Yn ystod y sesiwn breifat, trafododd y Pwyllgor nifer o faterion a gododd o lythyr y Gweinidog yr oedd am iddynt gael eu cynnwys fel rhan o waith dilynol yn y maes hwn yn y dyfodol.
3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y Cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at yr Ymddiriedolaeth i gael rhagor o wybodaeth am gynaliadwyedd ei model gofal clinigol newydd a'i threfniadau ar gyfer rhoi gwaed.
6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i ychwanegu rhai casgliadau pellach mewn perthynas â gwasanaethau carchar. Bydd y Pwyllgor yn trafod y newidiadau yn y cyfarfod nesaf.
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr amserlen ddrafft ar gyfer craffu ar y Bil.
8.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr opsiynau ar gyfer gwaith craffu pellach yn dilyn y sesiwn gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ar 23 Mai 2019. Yn y lle cyntaf, cytunodd i wahodd y panel trosolwg annibynnol ar famolaeth a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i drafod ei waith mewn cyfarfod yn y dyfodol.